R -
Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd
1. Aled Roberts (Gogledd Cymru): A oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw fwriad i adolygu polisi Cyfoeth Naturiol Cymru ar lanhau afonydd? OAQ(4)0097(NRF)W
2. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol sector coedwigaeth Cymru? OAQ(4)0082(NRF)
3. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am dlodi tanwydd yn Nhorfaen? OAQ(4)0087(NRF)
4. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol grantiau effeithlonrwydd ynni? OAQ(4)0091NRF)
5. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hyrwyddo bwydydd lleol? OAQ(4)0098(NRF)W
6. David Rees (Aberafan): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu ein hamgylchedd afonydd a dyfrffyrdd mewndirol? OAQ(4)0092(NRF)
7. Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd ynghylch cadwraeth natur? OAQ(4)0095(NRF)
8. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad pellach ar y Cynllun Gweithredu Drafft Bwyd a Diod Cymru a gyhoeddodd yn y Ffair Aeaf? OAQ(4)0099(NRF)W
9. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bwysigrwydd rheoli adnoddau naturiol yn gyfrifol yng Nghymru? OAQ(4)0094(NRF)
10. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy ar gyfer gweddill tymor y Cynulliad hwn? OAQ(4)0081(NRF)
11. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i gynorthwyo diwydiant bwyd a diod Cymru? OAQ(4)0085(NRF)
12. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth Llywodraeth Cymru i brosiectau ynni adnewyddadwy? OAQ(4)0096(NRF)
13. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cynllunio i fynd i'r afael â thlodi tanwydd yn ystod cyfnod y Nadolig? OAQ(4)0084(NRF)
14. Julie James (Gorllewin Abertawe): Beth yw blaenoriaethau'r Gweinidog ar gyfer datblygu ecosystem ym mae Abertawe? OAQ(4)0090(NRF)
15. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Beth y mae'r Gweinidog yn ei wneud i gynorthwyo coetiroedd Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0083(NRF)
Gofyn i’r Gweinidog Tai ac Adfywio
1. Christine Chapman (Cwm Cynon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae cydraddoldeb yn cael ei ystyried o ran cynllunio a datblygu cartrefi newydd? OAQ(4)0331(HR)
2. Keith Davies (Llanelli): Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i awdurdodau lleol i godi mwy o dai fforddiadwy? OAQ(4)0338(HR)W
3. Julie James (Gorllewin Abertawe): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog ar gyfer y sector tai rhent preifat yn Abertawe? OAQ(4)0330(HR)
4. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am godi tai ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? OAQ(4)0336(HR)
5. Leighton Andrews (Rhondda): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am swyddogaeth adfywio Cwmnïau Tai Cymunedol Cydfuddiannol? OAQ(4)0332(HR)
6. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei ymgynghoriad ar y Bil Cynllunio (Cymru) drafft? OAQ(4)0337(HR)W
7. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ansawdd tai yng ngogledd Cymru? OAQ(4)0326(HR)
8. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adfywio yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)0328(HR)
9. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Pa effaith y bydd y newidiadau i gynllun Cyllid ar gyfer Benthyca Llywodraeth y DU yn ei chael ar ddatblygu rhagor o dai yng Nghymru? OAQ(4)0329(HR)
10. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl ac Addasiadau Ffisegol? OAQ(4)0334(HR)
11. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y Papur Gwyn ar Rentu Cartrefi? OAQ(4)0335(HR)
12. Mick Antoniw (Pontypridd): Beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar y defnydd o orchmynion dosbarthiadau o ran tai amlfeddiannaeth? OAQ(4)0333(HR)
13. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw asesiad y Gweinidog o'r cyfraniad a wneir gan Swyddogion Galluogi Tai Gwledig i fynd i'r afael ag anghenion tai yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(4)0327(HR)
14. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y Bil Tai (Cymru)? OAQ(4)0339(HR)